144Uploads
24k+Views
2k+Downloads
World languages
Darllen a Deall - Calan Gaeaf
Darn darllen a deall yn seiliedig ar y profion cenedlaethol. Mae’r pecyn yn cynnwys taflen wybodaeth ac yna 2 daflen sy’n gofyn cwestiynau am y daflen wybodaeth.
Perffaith ar gyfer Calan Gaeaf.
Yn addas ar gyfer plant 7-9.
St Davids Day Wordsearch
A fun St Davids Day themed wordsearch containing lots of words to do with Wales including St David, rugby and welsh cakes! Suitable for children 7+.
Geiriau Croes
Un ar ddeg set o gardiau lliwgar sy’n cynnwys geiriau croes e.e. araf a chyflym, hen a newydd. Yn ogystal â geiriau croes mae enghreifftiau o eiriau arall gellid defnyddio yn hytrach na’r prif eiriau e.e. hapus > llon, llawen.
Adnodd defnyddiol i helpu plant gyda’i ysgrifennu disgrifiadol.
Yn addas ar gyfer plant 7-11.
Mat geiriau - Y Tymhorau
Matiau geiriau ( posteri) Y Tymhorau - matiau geiriau lliwgar sy’n cynnwys y prif eirfa sydd angen wrth ysgrifennu am y pedwar tymor. Yn addas ar gyfer CA1 a CA2.
Chwilair - Y Tymhorau
Chwileiriau gwahaniaethol sy’n ymwneud a’r tymhorau - Yr Hydref, Y Gwanwyn, Y Gaeaf a’r Haf.
Yn addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2.
Chwilair Noson Tan Gwyllt
Chwilair gwahaniaethol ar Noson Tan Gwyllt. Opsiwn o gefndir gwyn neu du.
Yn addas ar gyfer plant 7-11 blwydd oed.
Bundle
Y Tymhorau
Casgliad o daflenni gwaith lliwgar ar y Tymhorau sy’n cynnwys chwileiriau ar bob tymor ( wedi eu gwahaniaethu) a matiau geiriau.
Yn addas ar gyfer plant 5-11.
Owain Glyndwr mat geiriau/ word mat
Mat geiriau lliwgar am Owain Glyndwr sy’n cynnwys yr holl geirfa allweddol ynglyn a’i fywyd. Addas ar gyfer plant 7-11.
Colourful word mat about Owain Glyndwr that includes all the key word about his life. Suitable for ages 7-11.
Welsh and English
Enwau Eithriadol
Matiau geiriau sy’n cynnwys enwau yn nhrefn yr wyddor i helpu plant gyda’i ysgrifennu Cymraeg. Mae’r matiau wedi cael eu gwahaniaethu rhywfaint gyda’r ail daflen gydag enwau ychydig mwy heriol.
Geirfa Pel droed
Taflen gwaith sy’n gofyn i’r plant i gyfieithu termau pêl droed Saesneg i’r Gymraeg trwy ymchwilio ar we’r Termiadur Addysg. Yn berffaith ar gyfer Cwpan y Byd 2022 .
Yn addas ar gyfer plant +7.
Eirth
Pwerbwynt syml sy’n son am wahanol eirth y byd. Mae’n cynnwys gwybodaeth syml am eirth polar, brown, du a pandas. Mae’n son am ble maent yn byw a’i hoff fwydydd.
Yn addas ar gyfer plant CA1.
Mat geiriau Llywelyn Ein Llyw Olaf / Word mat Llywelyn the Last
Mat geiriau sy’n cynnwys geirfa pwysig am Llywelyn Ein Llyw Olaf. Teclyn defnyddiol i helpu plant wrth ysgrifennu am Llywelyn.
Perffaith ar gyfer Dydd Llywelyn Ein Llyw Olaf ar Ragfyr 11eg*
Yn addas ar gyfer plant 5-11.
Word map which includes important words about Llywelyn the Last. A useful tool to help children write about Llywelyn.
Perfect for Llywelyn the Last Day on December 11th.
Suitable for 5 -11 year olds.
Chwilair Llywelyn Ein Llyw Olaf / Wordsearch Llywelyn the Last
Chwilar sy’n cynnwys geirfa pwysig o hanes Llywelyn Ein Llyw Olaf.
Perffaith ar gyfer Dydd Llywelyn Ein Llyw Olaf ar Ragfyr 11eg.
Yn addas ar gyer plant 7-11.
Wordsearch about Llywelyn the Last.
Perfect for Llywelyn the Last Day on December 11th.
Suitable for children aged 7-11.
Llywelyn Ein Llyw Olaf
Casgliad o daflenni gwaith yn seiliedig ar Llywelyn Ein Llyw Olaf. Casgliad yn cynnwys taflen gwybodaeth, taflen gwaith ar goeden deuluol tywysogion Gwynedd a thaflen gwaith ar gestyll sydd wedi eu henwi yn y daflen gwaith. Yn addas ar gyfer CA2.
Perffaith ar gyfer Dydd Llywelyn Ein Llyw Olaf ar Ragfyr 11eg
Meddygon Myddfai
Pwerbwynt am hanes Chwedl Llyn y Fan Fach a Meddygon Myddfai.
Wedi ei gyfieithu o lyfryn ‘Myth and Mystery’ gan Brecon Beacons National Park.
Taflen gwaith ychwanegol gyda chwestiynau yn seiliedig ar y Pwerbwynt.
Yn addas ar gyfer plant 7+
Adeiladau Enwog y Byd
Pwerbwynt sy’n cynnwys rhai o adeiladau enwocaf y byd a ffeithiau amdanynt. Adeiladau’n cynnwys The White House, Taj Mahal, Petronas Towers, St Pauls Cathedral, St Basil Cathedral, Sydney Opera House, Burj Khalifa.
I gyd-fynd a’r Pwerbwynt mae taflen gwaith. Yn addas ar gyfer plant CA2.
Bundle
Matiau geiriau - Ansoddeiriau, Berfau ac Enwau
Matiau geiriau sy’n cynnwys ansoddeiriau, berfau ac enwau yn nhrefn yr wyddor i helpu plant gyda’i ysgrifennu Cymraeg. Mae’r matiau wedi cael eu gwahaniaethu rhywfaint gyda’r ail daflen gydag ansoddeiriau, berfau ac enwau ychydig mwy heriol.
Erthygl Dewi Sant
Erthygl papur newydd ar wyrth fwyaf enwog Dewi Sant i Gyfnod Allweddol 2. Taflen i gyflwyno un o wyrthiau Dewi Sant ac i ymestyn gwybodaeth y disgyblion am rhai o’i wyrthiau arall. Disgyblion i ymchwilio i’w gwyrthiau arall a chreu erthygl eu hun.
Darllen a Deall -Y Fuwch Goch Gota
Taflen darllen a deall yn seiliedig ar y profion cenedlaethol.
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 yn arbennig Blwyddyn 3 a 4.
Chwilair - Yn yr Eira
Chwilair ar gyfer plant 7- 9 am fywyd yn yr eira.